Y Dinesydd – cyfrwng Cymraeg i ddinasyddion Caerdydd a’r Fro rannu newyddion a storïau am bobl a digwyddiadau yn yr ardal.

Rhifyn diweddaraf ar gael nawr drwy danysgrifio.

 

 

Croeso i chi gyfrannu stori neu sylwadau. Ewch i’r ffenest Cysylltu.

Cyhoeddwyd y Dinesydd cyntaf yn Ebrill 1973 – felly dyma bapur bro hynaf Cymru! Mae’r diwyg a’r cynnwys wedi newid tipyn gyda’r blynyddoedd a gobeithiwn ei fod yn plesio darllenwyr heddiw.

Cyhoeddir 10 rhifyn y flwyddyn – pob mis ac eithrio Ionawr ac Awst.

Sut i gael Y Dinesydd

  • Gellir prynu copïau mewn nifer o siopau neu ganolfannau. (Gweler rhestr isod.)
  • Am danysgrifiad o £15 * fe gewch gopi pdf ar-lein
  • Am danysgrifiad o £15 * fe gewch gopi o bob rhifyn wedi ei ddosbarthu i ganolfan o’ch dewis chi – capel, ysgol, cymdeithas, côr ac ati.
  • Am danysgrifiad o £25 * fe gewch gopi trwy ddrws eich tŷ (naill ai trwy law dosbarthwr neu drwy’r post).

* I gael copi o’r Ffurflen Danysgrifio,
cliciwch > 2024 Ffurflen Danysgrifio 

Tanysgrifio ar y Wê
Gallwch danysgrifio ar y we i dderbyn copi ar-lein.
£15 am 10  rhifyn.

Y Gymraeg yng Nghaerdydd a’r Fro

Pa Arlywydd Americanaidd a ymwelodd ag Eisteddfod Genedlaethol Caerdydd yn 1938? Ble yng Nghaerdydd roedd Saunders Lewis yn byw pan ddechreuodd ysgrifennu ei ddrama Blodeuwedd? Ym mha dafarn yng Nghaerdydd y byddai Iolo Morganwg yn cyfarfod â‘i gyfeillion barddol? Sut y cafodd Parc yr Arfau ei enw? Pa gantores bop Gymraeg a Chernyweg a fagwyd yn Despenser St? Cewch yr ateb i’r cwestiynau hynny a llawer mwy yma.

 

Siopau lle gellir prynu’r Dinesydd

CABAN, Pontcanna
CAFFI BLOC, Parc Fictoria
CAFFI FFLOC, Heol Ddwyreiniol y Bontfaen
CANT A MIL, 100 Whitchurch Rd.
DERI  STORES, Rhiwbeina
GRIFFIN  BOOKS, Penarth
PAPERWEIGHT, 22 Wellfield Road
SIOP  FACH CAERDYDD, Arcêd y Castell
Y FELIN, Yr Eglwys Newydd
VICTORIA  FEARN  GALLERY, Rhiwbeina